Mae gan Efa raddau BA (Hons) ac MArch mewn Pensaernïaeth. Yn 2016, ennillodd hi Ysgoloriaeth Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hi’n ysgrifennu colofn am bensaernïaeth ar gyfer y cylchgrawn ‘Cara’. Gallwch ddarllen ei gwaith yma.

Mae Efa hefyd yn cael ei gwahodd i drafod pensaernïaeth ar amryw o raglenni BBC Radio Cymru, a thrafododd bensaernïaeth ar y rhaglen S4C ‘Waliau’n Siarad’ (2020) hefyd.

Mae darnau ysgrifenedig Efa am bensaernïaeth hefyd wedi ymddangos yng nghyfnodolyn Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru, ’Touchstone’.