Darn a ddechreuodd y prosiect ‘Cadwyn Creu’ yr Eisteddfod AmGen yn 2020.
Y testun a gafwyd oedd ‘Haul’, a penderfynodd Efa bortreadu Morfudd, o gerddi Dafydd ap Gwilym.
Yn hanesyddol, rydym ni wedi gweld Morfudd trwy’r drem wrywaidd (male gaze), gan mai dim ond geiriau Dafydd sy’n ei phortreadu hi bellach, felly dyma ymgais i bortreadu Morfudd fel menyw o gig a gwaed.
Yn y darlun, mae Morfudd wedi ei chylchynnu gan rai o ddisgrifiadau Dafydd ohoni, a delweddau o gerddi eraill Dafydd ap Gwilym.
…
An illustration as part of the ‘Cadwyn Creu’ project in the 2020 AmGen Eisteddfod.