Mae Efa Lois yn arlunydd ac awdur o Gymru.
Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn defnyddio ei gwaith celf i godi ymwybyddiaeth am gyfiawnder hinsawdd a chynaliadwyedd, yn ogystal â chwedlau, hanes, a diwylliant Cymru.
Mae Efa wedi bod yn arlunydd swyddogol ar gyfer yr ŵyl Tafwyl ers 2018.
Mae ei gwaith wedi ymddangos yng nghyhoeddiadau Croeso Cymru | Visit Wales, Cadw, ac Amgueddfa Narberth.
Mae Efa wedi arlunio llyfrau ar gyfer Angharad Tomos (Henriet y Syffrajet, 2018), Lleucu Roberts (Y Stori Orau, 2021), a Jon Gower (Cymry o Fri, 2022).
Mae hi hefyd wedi arlunio cloriau albymau ar gyfer Casi & The Blind Harpist, Catty, Hidden Pianos, ac Elis Derby.
Prosiectau
Ers 2019, mae prosiect Efa ‘Gwrachod Cymru’ wedi dogfennu dros 90 wrach o chwedlau Cymru. Gallwch ddarllen rhagor am y prosiect yma.
Ers 2017, mae Efa wedi cydweithio gyda’r bardd Morgan Owen ar ‘Rhithganfyddiad’ – prosiect sy’n dogfennu lleoedd Cymru ar ffurf darlun a cherdd. Mae printiau o waith y prosiect ar gael yma.
Yn 2017, sefydlodd Efa y wefan ‘Prosiect Drudwen’, sy’n dogfennu hanes menywod anghofiedig Cymru. Mae’r wefan bellach yn cynnwys bywgraffiadau a darluniau (gan Efa) o dros 80 o fenywod Cymru.